Mae seramegau Justine Allison wedi’u gwneud yn gelfydd, maen nhw’n ddrudfawr i’w cyffwrdd ac yn hyfrydwch i’r llygad. Yr Athro Moira Vincentelli
Mae Justine â’i hiaith clai ei hun. Yn cydbwyso rhwng ymarferol a cherfluniol mae ei harfer serameg yn gyfoethog ac yn wreiddiol. Gyda dealltwriaeth ddwys o’i defnyddiau ac estheteg weledol wedi’i fireinio, y ffurfir llestri Justine. Mae’n gymaint o bleser cael y sioe solo yma gan Justine yn arddangosfa agoriadol ail gyfres Iaith Clai. Mae’n ehangu’r ddeialog a gyflwynwyd drwy’r gyfres gyntaf ac yn dathlu arbenigedd hynod. Ceri Jones, Curadur yr Arddangosfa
Cyfres o arddangosfeydd cenedlaethol teithiol yw Iaith Clai, wedi’u trefnu gan y Mission Gallery mewn cydweithrediad â Chanolfan Grefft Rhuthun a’u hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
02/02/2019-31/03/2019
Gwiriwch ddyddiadur Newyddion Diweddaraf i gael y newyddion diweddaraf am gyflwyniadau a digwyddiadau
Justine Allison
ARDDANGOSIAD
Dydd Mercher Mawrth 27 1.00–2.15 pm
Cyfarfod yn y Stiwdio Cerameg, Canolfan y Celfyddydau
AM DDIM